Cafodd
Clasur Cymru ei rhedeg am y tro cyntaf yn 1984. MOUNTAIN HERO oedd yr enillwr
cyntaf. Roedd yn fuddugoliaeth deimladwy oherwydd bod y ceffyl wedi ei fagu gan
Gareth Davies, ysgrifennydd cyntaf y Clwb. Yn anffodus bu farw Gareth cyn iddo
weld ei geffyl yn ennill yn ei filltir sgwâr.
Cyflwynwyd y cwpan i berchennog a gyrrwr y ceffyl Teifion Thomas. Ac
mewn tro rhyfedd arall, Cwpan Coffa Gareth Lloyd Davies oedd y cwpan.
Erbyn hyn
mae pob un o’r 25 enillwyr Clasur Cymru wedi codi'r cwpan.
Mae 25 o geffylau wedi ennill Clasur
Cymru. Cyn enillwyr Clasur Cymru.
Dim ond 3 caseg sy wedi ennill y ras -
BLACK and SILVER (1988); LYONS SURE SIGN (2000) a SHADY ROMANCE (2004)
Nid oes yr un ceffyl wedi ennill Clasur
Cymru mwy nag unwaith
Yr unig farch i genhedlu mwy nag un
enillydd yw RUSSIAN PATROL (Black and Silver,1988 a Russian Square,1979)
MICK LORD yw'r unig yrrwr i ennill
Clasur Cymru 4 gwaith (Black and Silver,1988; George Arthur, 2003; Shady
Romance 2004 a Daydreamer 2005) ac mae Ian Pimlott wedi ennill y ras 3 gwaith
(All Mac, 1994 and Precocious Fella, 1995; Immpartial 2010)
TEIFION THOMAS oedd y gyrrwr cyntaf i
ennill mwy nag un Clasur Cymru (Mountain Hero 1984, a The Bounder 1982); ac
erbyn hyn mae 2 yrrwr arall wedi cyflawni'r gamp: STEVIE LEES (Russian
Square,1985 and Meadowbranch Frank,2006) a MEGAN TAFF (Disraeli Force, 1997 a
Saunders Celestial, 1999)
MEGAN TAFF oedd y gyrrwraig gyntaf i
ennill y ras (Disraeli Force, 1997)
BRENDA DEAN oedd yr hyfforddwraig
gyntaf i ennill y ras (Stormy Reveller, 2002)
R MUNDAY yw'r unig berchennog i ennill y ras mwy
nag unwaith (Disraeli Force, 1997 a Saunders Celestial, 1999)
SHEELAGH LORD yw'r unig hyfforddwr i
ennill y ras 3 gwaith (George Arthur,2003; Shady Romance, 2004 a Daydreamer
2005)
MOUNTAIN HERO(1984) a Earned Income yw'r unig
geffylau i ennill wedi hebrwng 50 llath; 3 wedi ennill yn hebrwng 30 llath; 9
yn hebrwng 20 llath; 5 yn hebrwng 10 llath a 6 yn hebrwng y gât.
GEORGE ARTHUR (2003) 2 funud 2.4 eiliad yw'r
enillydd cyflymaf - ac yn cynnal RECORD NEWYDD Y TRAC (a hebrwng 10
llath!). Er hyn Lucky Touch sydd yn
cynnal record y trac ond hynny mewn rhag ras (2007 - 2 funud 1.6 eiliad)
Mae'r Albanwyr wedi ennill Clasur Cymru unwaith, 3
enillydd o Iwerddon, 8 enillydd o Loegr ond 13 o Gymru!
Y ceffyl hynaf i ennill Clasur Cymru yw OUTLAW
(1992) yn 10ed. Mae 7 ceffyl 4 oed wedi ennill, 7 ceffyl 5oed, 6 ceffyl 6oed ,
2 yn 7 oed a 2 yn 9 oed.
LYONS SURE SIGN (USA) a EARNED INCOME
yw'r unig geffylau tramor i ennill Clasur Cymru.
DAYDREAMER (2004 &
2005) ac IMMPARTIAL (2009 A 2010) yw’r unig 2 geffyl i ennill Clasur Cymru
(2005) a’r Strata Florida
SHADY ROMANCE yw'r unig un i ennill
Clasur Cymru a ras fawr Musselbrugh
O’R FFEITHIAU HYN A
FEDRWCH CHI ENWI ENILLYDD CLASUR CYMRU 2011???