Clasur Cymru

Cafodd Clasur Cymru ei rhedeg am y tro cyntaf yn 1984. MOUNTAIN HERO oedd yr enillwr cyntaf. Roedd yn fuddugoliaeth deimladwy oherwydd bod y ceffyl wedi ei fagu gan Gareth Davies, ysgrifennydd cyntaf y Clwb. Yn anffodus bu farw Gareth cyn iddo weld ei geffyl yn ennill yn ei filltir sgwâr.  Cyflwynwyd y cwpan i berchennog a gyrrwr y ceffyl Teifion Thomas. Ac mewn tro rhyfedd arall, Cwpan Coffa Gareth Lloyd Davies oedd y cwpan.

Erbyn hyn mae pob un o’r 25 enillwyr Clasur Cymru wedi codi'r cwpan.

MEDI 2010 - RHAI O YSTADEGAU AM GLASUR CYMRU

*  Mae 25 o geffylau wedi ennill Clasur Cymru. Cyn enillwyr Clasur Cymru.

*  Dim ond 3 caseg sy wedi ennill y ras - BLACK and SILVER (1988); LYONS SURE SIGN (2000) a SHADY ROMANCE (2004)

*  Nid oes yr un ceffyl wedi ennill Clasur Cymru mwy nag unwaith

*  Yr unig farch i genhedlu mwy nag un enillydd yw RUSSIAN PATROL (Black and Silver,1988 a Russian Square,1979)

*  MICK LORD yw'r unig yrrwr i ennill Clasur Cymru 4 gwaith (Black and Silver,1988; George Arthur, 2003; Shady Romance 2004 a Daydreamer 2005) ac mae Ian Pimlott wedi ennill y ras 3 gwaith (All Mac, 1994 and Precocious Fella, 1995; Immpartial 2010)         

*  TEIFION THOMAS oedd y gyrrwr cyntaf i ennill mwy nag un Clasur Cymru (Mountain Hero 1984, a The Bounder 1982); ac erbyn hyn mae 2 yrrwr arall wedi cyflawni'r gamp:   STEVIE LEES (Russian Square,1985 and Meadowbranch Frank,2006) a MEGAN TAFF (Disraeli Force, 1997 a Saunders Celestial, 1999)

*  MEGAN TAFF oedd y gyrrwraig gyntaf i ennill y ras (Disraeli Force, 1997)

*  BRENDA DEAN oedd yr hyfforddwraig gyntaf i ennill y ras (Stormy Reveller, 2002)

*  R MUNDAY yw'r unig berchennog i ennill y ras mwy nag unwaith (Disraeli Force, 1997 a Saunders Celestial, 1999)

*  SHEELAGH LORD yw'r unig hyfforddwr i ennill y ras 3 gwaith (George Arthur,2003; Shady Romance, 2004 a Daydreamer 2005)

*  MOUNTAIN HERO(1984) a Earned Income yw'r unig geffylau i ennill wedi hebrwng 50 llath; 3 wedi ennill yn hebrwng 30 llath; 9 yn hebrwng 20 llath; 5 yn hebrwng 10 llath a 6 yn hebrwng y gât.

*  GEORGE ARTHUR (2003) 2 funud 2.4 eiliad yw'r enillydd cyflymaf - ac yn cynnal RECORD NEWYDD Y TRAC (a hebrwng 10 llath!).  Er hyn Lucky Touch sydd yn cynnal record y trac ond hynny mewn rhag ras (2007 - 2 funud 1.6 eiliad)

*  Mae'r Albanwyr wedi ennill Clasur Cymru unwaith, 3 enillydd o Iwerddon, 8 enillydd o Loegr ond 13 o Gymru!

*  Y ceffyl hynaf i ennill Clasur Cymru yw OUTLAW (1992) yn 10ed. Mae 7 ceffyl 4 oed wedi ennill, 7 ceffyl 5oed, 6 ceffyl 6oed , 2 yn 7 oed a 2 yn 9 oed.

*  LYONS SURE SIGN (USA) a EARNED INCOME yw'r unig geffylau tramor i ennill Clasur Cymru.

*  DAYDREAMER (2004 & 2005) ac IMMPARTIAL (2009 A 2010) yw’r unig 2 geffyl i ennill Clasur Cymru (2005) a’r Strata Florida

*  SHADY ROMANCE yw'r unig un i ennill Clasur Cymru a ras fawr Musselbrugh

O’R FFEITHIAU HYN A FEDRWCH CHI ENWI ENILLYDD CLASUR CYMRU 2011???