Unwaith
eto mae’n argoely’n dda i Wyl Rasus
Tregaron 2006 – heb os mae’r cyfarfod rasus 3 nhiwrnod yma yn mis Awst wedi
datblygu i fod yn un o brif ddigwyddiadau ceffylau yng Ngymru, ac yn sicr prif
rasus trotian ym Mhrydain fawr. Mae
llwyddiant y rasus yn sicrhau fod
cystadleu wyr, noddwyr a chefnogwyr yn dychwelyd flwyddyn ar ôl blwyddyn ac
unwiath eto eleni mae’r Clwb wedi deni noddwyr blaenllaw newydd. Fel canlyniad mae’r gwobrion yn dal i godi ,
dros £60,000 i’w ennill gan gynnwys £7000 i’r ras fawr CLASUR CYMRU. Uchel bwyntiau y 3 dydd eleni fydd:
DYDD IAU Cwpan Cors
Caron - Ras milltir a hanner i geffylau agored ac os oes anghen rhag-rasus Y
DDRAIG IAU GYMREIG i geffylau 2 flwydd, ond uchafbwynt y noswaith fydd y ‘FREE
FOR ALL’, cyfle i weld ceffylau gorau’r wlad yn camu allan am goron y goreuon.
DYDD GWENER
Rhag-rasus a ffeinal y ‘STRATA FLORIDA HANDICAP’ ac hefyd Y DDRAIG FACH GYMREIG gyda £15,000 i
ennill, gall y geffyl o’r Alban AYR GLORY adlewyrchu y ddawn a ddangosodd wrth
gipio’r Ddraig Iau y llynedd?
DYDD SADWRN The DDRAIG IAU GYMREIG, 7fed cymal o’r CROCHAN AUR, THE
TROT BRITAIN OPEN ac wrthgwrs CLASUR
CYMRU. Mae Mick Lord wedi ennill y ras ‘ma am y 3 mhlynedd diwethaf , tipyn o
gamp – ond pwy fydd yn gylch yr enillwyr eleni?
Mae gwledd o rasIo yn eich
disgwyl yn Nhregaron, gwenwch siwr eich bod chi yno i brofu a mwynhau y cyffro
ar bwrlwm o rasus trotian gorau y wlad.
TOCYNNAU 3
DIWRNOD AR GAEL £25, cysylltwch â David J Edwards 07833 564 941 neu e bost
AM FANYLION LLETY/GWESTY/GWELY A BRECWAST
AYYB CYSYLLTWCH Â SWYDDFA CURIAD CARON 01974 298146
DROS 200 O GEFFYLAU WEDI ENWEBU I'R DDRAIG
FACH GYMREIG
ENWEBIADAU Y DDRAIG FACH GYMREIG YN CAU 1af
MAWRTH
CYFLWYNO GWEFAN TREGARON
DYDDIADAU
RASUS 2004
RASUS Y GWANWYN - DYDD SADWRN MAI 8fed, 2004
GWYL RASUS TREGARON
DYDD IAU AWST 26ain, 2004;
DYDD GWENER AWST 27ain, 2004;
DYDD SADWRN AWST 28ain,2004
PRIF
RAS NEWYDD I GEFFYLAU 3 OED